top stories
Brecwast Busnes Dydd Gwyl Dewi 2013
| Event: | Brecwast Busnes Dydd Gwyl Dewi 2013 |
Mae'n braf gennym gyhoeddi mai ein siaradwr gwadd ar gyfer Brecwast Busnes Dydd Gwyl Dewi 2013 fydd Rhodri Talfan-Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru. Penodwyd Rhodri'n Gyfarwyddwr BBC Cymru ym mis Gorffennaf 2011 ac mae'n aelod o Grwp Cyfeiriad y BBC a gaiff ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Fforwm y DU a Bwrdd Cynhyrchu Rhwydwaith y DU. Mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros olygyddiaeth a rheolaeth BBC Cymru ac mae'n arwain busnes รข throsiant blynyddol o fwy na 150mGBP sy'n cyflogi 1200 o staff ledled Cymru. Mae'n gyfrifol am arwain y timau creadigol sy'n cynhyrchu mwy na 15,500 o oriau o gynnwys radio a theledu lleol bob blwyddyn ynghyd ag ystod o gynnwys ar-lein. Mae hefyd yn gyfrifol am lefel sylweddol a chynyddol o allbwn ar gyfer y rhwydwaith. Mae hefyd yn sicrhau bod BBC Cymru'n cyflawni ei ddyletswyddau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae Rhodri'n darparu'r weledigaeth a'r arweinyddiaeth greadigol sydd eu hangen i gyflwyno portffolio BBC Cymru o raglenni a gwasanaethau aml-lwyfan ac mae'n gyfrifol am fwyafu gwerth i'r cyhoedd drwy greadigrwydd, arloesed a defnydd effeithlon o adnoddau. Bydd yn dechrau am 7.30am gyda derbyniad 'bucks fizz', wedi'i ddilyn gan Frecwast Cymreig gan ddod i ben am 9.00am. Bob blwyddyn mae rhestr ar aros ar gyfer y digwyddiad hwn ac rydym eisoes yn derbyn archebion gan fynychwyr blaenorol felly cofiwch archebu ar y cyfle cynharaf i osgoi cael eich siomi I Archebu Os nad ydych wedi archebu lle mewn digwyddiad o'r blaen gan ddefnyddio system archebu ar-lein newydd ACCA, nodwch fod angen i chi gofrestru yma cyn archebu eich lle: Unwaith i chi gofrestru gellir: clicio yma i archebu byrddau clicio yma i archebu lleoedd unigol |
|
| Date: | 01 Mar 2013 |
| Duration: | 7.30am - 9.00am |
| Venue: | Gwesty'r Hilton, Caerdydd CF10 3HH |
| Caerdydd | |
| Type of Event: | Members' Networking Event |
| Cost: | 24GBP (gan gynnwys TAW y pen) lleoedd unigol 220GBP (gan gynnwys Tax) am byrddau o 10 |
| CPD Units*: | |
*CPD Units are only verifiable if the event attended provides skills and/or knowledge relevant to your job or career aspirations. |
|
| For further details please contact Maria Hampson-Jones on 0844 894 4833 or e-mail bookings.wales@uk.accaglobal.com | |
